The main exhibition will remain online this year, its free, and you are welcome to enter from all over the UK (more details below)

We will have Two portrait categories: 

1- ‘Paint a Portrait’ We are delighted to announce that the one and only Rhys Ifans has agreed to be this year’s Welsh STAR for our ‘Paint a Portrait’ category, bringing a touch of film glamour to our exhibition. All entries will be judged by Rhys, (he has requested that we use photos of him, rather than in film role’s some examples below)

2- ‘Pet Pawtrait’s – We would really love to see your favourite furry friends immortalised- in oil, pencil, or collage.

GS Artists yn cyhoeddi arddangosfa a chystadleuaeth flynyddol 9i90 Cymuned Greadigol eleni! Bydd y brif arddangosfa’n aros ar-lein eleni, does dim tâl, ac mae croeso ichi gystadlu o bob rhan o’r DU (rhagor o fanylion isod).

Bydd gennym ddau gategori portread:

1 ‘Paentio Portread’ – mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r unigryw Rhys Ifans fydd SEREN eleni ar gyfer ein categori ‘Paentio Portread’, gan ddod â mymryn o hudoliaeth ffilm i’n harddangosfa. Bydd pob cynnig yn cael ei feirniadu gan Rhys (mae wedi gofyn inni ddefnyddio ffotograffau ohono yn hytrach na mewn rolau ffilm – gweler rhai enghreifftiau isod)

2 ‘Portreadau o anifeiliaid anwes’ – byddem wrth ein bodd yn gweld eich hoff ffrindiau blewog wedi eu hanfarwoli – mewn olew, pensil neu collage.

WORKSHOPS -From November 18th, 2022, our gallery will become one big art club, hosting free classes in a wide range of materials and methods.   

Details of the workshops will be announced soon via Eventbrite and on our Website, Facebook and our Instagram.

COMPETITION DETAILS – 

Free to enter and you are welcome to enter from all over the UK.

You are welcome to enter both portrait categories.

ALL the works entered will be displayed on our online gallery.

Entry is via email until 5pm on December 14th, just email the best jpg possible of your artwork with your name and age group; 13 & under, 17 & under, and Adult. There will be 2 prizes for each age group, and a highly commended.  JPG’S of work and questions email us at [email protected]

Results will be announced online at 3pm on Saturday December 17th and celebrated on the same day at a Christmas party at the gallery at 217, High Street, between 2-4pm.

GWEITHDAI

O 18 Tachwedd, 2022, bydd ein horiel yn troi’n un clwb celf mawr, wrth inni gynnal dosbarthiadau am ddim mewn ystod eang o ddeunyddiau a dulliau.

Cyhoeddir manylion y gweithdai yn fuan trwy Eventbrite ac ar ein Gwefan, Facebook ac Instagram.

MANYLION Y GYSTADLEUAETH

Does dim tâl i gystadlu a chroesewir cystadleuwyr o bob rhan o’r DU. Mae croeso ichi roi cynnig ar y ddau gategori portread.

Bydd yr HOLL weithiau a gyflwynir yn cael eu harddangos ar ein horiel ar-lein.

Rhaid cystadlu trwy ebost, tan 5pm ar 14 Rhagfyr. Anfonwch y JPG gorau posibl o’ch gwaith celf gyda’ch enw a’ch grŵp oedran (13 ac iau, 17 ac iau, ac Oedolion) atom trwy ebost. Bydd dwy wobr i bob grŵp oedran, a gwobr clod uchel. Anfonwch y JPGs o’r gwaith, ac unrhyw gwestiynau sydd gennych trwy ebost at [email protected]

Cyhoeddir y canlyniadau ar-lein am 3pm ddydd Sadwrn Rhagfyr 17eg a byddwn yn eu dathlu ar yr un diwrnod mewn parti Nadolig yn yr oriel yn 217, Stryd Fawr, rhwng 2 a 4pm.

Jane Simpson, founder of GS Artists says –  “We are delighted to host a project that really has community at the heart of it. Our pets are so important to us, so immortalising them a real joy. 

We are absolutely delighted that Rhys Ifans has agreed to be this year’s Welsh STAR. Portraits are a fantastic challenge for all, especially if the subject is admired as much as Rhys.  Previous subjects were; Catherine Zeta Jones, Michael Sheen, Sir Peter Blake and Rob Brydon, immortalised in oil paint, pencil, collage, fabric, cardboard, metal, and beetroot. 

The enthusiasm and results have been amazing, and we are really looking forward to this year’s contributions, and thank you as always to our creative community that have shown such imagination, enthusiasm and commitment to this project every year!

Dywed Jane Simpson, sylfaenydd GS Artists “Rydym yn falch iawn o gynnal prosiect sydd â chymuned yn ganolog iddo. Mae ein hanifeiliaid anwes mor bwysig inni, felly mae eu hanfarwoli yn bleser pur.

Rydym wrth ein bodd bod Rhys Ifans wedi cytuno i fod yn SEREN eleni. Mae portreadau yn her wych i bawb, yn enwedig os yw’r pwnc yn cael ei edmygu cymaint â Rhys. Pynciau blaenorol oedd Catherine Zeta Jones, Michael Sheen, Sir Peter Blake a Rob Brydon, a gafodd eu hanfarwoli mewn paent olew, pensil, collage, ffabrig, cardfwrdd, metel, a betys.

Mae’r brwdfrydedd a’r canlyniadau wedi bod yn anhygoel, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau eleni. Diolch unwaith eto i’n cymuned greadigol sydd wedi dangos cymaint o ddychymyg, brwdfrydedd ac ymrwymiad i’r prosiect hwn bob blwyddyn!”